Money My Way - Budd-daliadau.
Mae'n bwysig eich bod chi'n ymwybodol o'r gwahanol fudd-daliadau a chredydau treth sydd ar gael er mwyn sicrhau nad ydych yn colli unrhyw beth y medrech ei gael.
Tasg 1: Bod yn ymwybodol o'r gwahanol fudd-daliadau a chredydau treth sydd ar gael.
Mae'n bwysig eich bod chi'n ymwybodol o'r gwahanol fudd-daliadau a chredydau treth sydd ar gael er mwyn sicrhau nad ydych yn colli unrhyw beth y medrech ei gael. Gafaelwch mewn ysgrifbin a phapur. Ceisiwch restru'r gwahanol fathau o fudd-daliadau y gall unigolyn sy'n debyg i chi eu derbyn. Unwaith i chi eu nodi, gwiriwch wefan GOV.UK i weld a oes rhai rydych heb eu nodi.
Tasg 2: Beth Sydd Gennych Hawl Eu Derbyn?
Os nad ydych yn siŵr pa fudd-daliadau y mae gennych hawl iddynt, mae gan wefan Entitledto gyfrifiannell sy'n gallu cyfrif sawl budd-dal gan gynnwys credydau treth, Budd-dal Plant a Chredyd Cynhwysol. Rhowch gynnig arni nawr i weld pa fudd-daliadau y mae gennych hawl eu derbyn!
Tasg 3: Dysgu Rhagor
Darllenwch yr adrannau isod i ddysgu am rai o'r budd-daliadau eraill sydd gennych hawl eu derbyn o bosib.
Budd-dal Plant
Mae Budd-dal Plant ond ar gael i bobl sydd â chyfrifoldeb dros blentyn sy'n iau na 16 ac, mewn rhai achosion, plant hyd at 20 blwydd oed. Ond un person all hawlio ar gyfer pob un plentyn - mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan GOV.UK.
Credydau Treth Gwaith
Mae Credydau Treth Gwaith yn cynnig ychydig o gymorth ychwanegol er mwyn sicrhau bod gweithio'n fwy manteisiol i chi na bod yn ddi-waith. Defnyddiwch yr amcangyfrifydd credydau treth gwaith isod er mwyn cyfrif faint y gallwch ei hawlio o bosib. Yna, ewch i dudalen GOV.UK am ragor o wybodaeth ynghylch sut i'w hawlio.
Credydau Treth Plant
Mae Credydau Treth Plant yn gymorth i bobl â phlant sy'n derbyn cyflog isel. Gall y credydau gael eu hawlio ar ben Budd-dal Plant ac nad oes rhaid i chi fod yn gweithio i'w hawlio. Bydd y dolenni cyswllt isod yn eich arwain at wahanol rannau o wefan GOV.UK - un rhan i wirio a ydych yn gymwys i hawlio credydau treth a'r llall i egluro sut i'w hawlio.
Credyd Cynhwysol
Mae Credyd Cynhwysol yn daliad unigol sy'n disodli chwe budd-dal a chredyd treth arall. Mae canllaw defnyddiol ar gael ar wefan Public Services Online ynghylch beth yw Credyd Cynhwysol, pwy a effeithiir gan y newid a sut i hawlio Credyd Cynhwysol os bydd angen.
Lwfans Ceisio Gwaith
Mae'r adran Chwilio am Swydd Ar-lein yn cynnwys cwrs sy'n trafod chwilio am swydd ar-lein, ynghyd â chanllaw sy'n egluro beth yw Paru Swyddi Ar-lein, a fydd yn eich helpu i ddefnyddio gwefan Paru Swyddi Ar-lein yn y ffordd fwyaf effeithiol.
Cynllun Sesiwn Ar Gyfer Tiwtoriaid
Os ydych yn diwtor, gall defnyddio'r cynllun sesiwn isod fod yn ddefnyddiol fel cymorth gyda'r pwnc hwn.