Defnyddio sgrin gyffwrdd

Trwy astudio'r cwrs hwn byddwch yn dysgu sut i ddefnyddio sgrin gyffwrdd ar ffôn symudol neu gyfrifiadur llechen. Bydd y cwrs hefyd yn trafod rheoliadau sylfaenol a rheoliadau mwy cymhleth sgrin gyffwrdd. Byddwch hefyd yn dysgu sut i gael y budd mwyaf o'ch ffôn clyfar neu lechen sgrin gyffwrdd.

Mae nifer cynyddol o ffonau a chyfrifiaduron yn cael eu cynhyrchu gyda sgrin y gellir ei chyffwrdd. Oherwydd hyn, mae deall sut i ddefnyddio sgrin gyffwrdd yn bwysig iawn. Yn aml, mae defnyddio sgrin gyffwrdd ar eich ffôn symudol, ffôn clyfar neu gyfrifiadur llechen yn haws na defnyddio bysellfwrdd a llygoden.

3 testun | 3 adnodd

Adnodd

Dysgu rhagor ynghylch Defnyddio sgrin gyffwrdd trwy'r tudalennau cysylltiedig hyn: