Defnyddio bysellfwrdd

Trwy astudio'r cwrs hwn byddwch yn dysgu sut i ddefnyddio bysellfwrdd cyfrifiadur i deipio testun a rhifau. Bydd y cwrs yn dangos i chi hefyd sut i ddefnyddio bysellfwrdd i ganfod eich ffordd o gwmpas eich cyfrifiadur a sut i gyflawni tasgau syml eraill.

Mae'r allweddi sydd ar y bysellfwrdd yn rheoli'r hyn sy'n digwydd ar sgrin y cyfrifiadur ac yn eich galluogi chi i deipio llythrennau a rhifau. Mae gallu defnyddio bysellfwrdd yn un o'r sgiliau mwyaf pwysig er mwyn gallu defnyddio cyfrifiaduron a'r rhyngrwyd.

2 testun | 3 adnodd

Adnodd

Dysgu rhagor ynghylch Defnyddio bysellfwrdd trwy'r tudalennau cysylltiedig hyn: