Sut rydym yn defnyddio cwcis

Beth yw cwcis?

Mae cwcis yn ffeiliau testun bach sy'n cael eu storio ar eich cyfrifiadur wrth i chi ymweld â thudalennau gwe penodol. Mae gwefan Learn My Way n defnyddio cwcis i olrhain eich gweithgarwch wrth i chi grwydro'r wefan, p'un ai ydych wedi eich mewngofnodi neu beidio, ac i weld pa ganolfan ar-lein y DU y gallech fod ynddo.

Bydd yn rhaid eich bod wedi caniatáu cwcis i gofrestru â gwefan Learn My Way - gweler yr adran sy'n trafod Rheoli cwcis. Os nad ydych am ganiatáu cwcis, byddwch yn dal i allu pori'r wefan. Mae'r rhan fwyaf o borwyr gwe yn caniatáu cwcis yn awtomatig, ond trowch at yr adran Rheoli cwcis am help os oes angen arnoch.

Mae'n bwysig cofio nad yw cwcis yn gwneud unrhyw niwed i'ch cyfrifiadur. Nid ydym yn storio unrhyw wybodaeth bersonol adnabyddadwy megis eich enw a chyfeiriad e-bost mewn unrhyw un o'r cwcis rydym yn eu creu. Serch hynny, rydym yn defnyddio gwybodaeth wedi'i hamgryptio a gasglwyd gan y cwcis i helpu gwella eich profiad o ddefnyddio'r wefan.

Ni fydd unrhyw gwcis ar ein gwefan yn cael eu defnyddio i ddangos hysbysebion targedig i chi ar wefannau eraill.

Rydym yn rhannu'r wybodaeth hon â chi fel rhan o'n hymdrechion i gydymffurfio â deddfwriaeth ddiweddar, ac i sicrhau ein bod ni'n onest ac yn glir ynghylch eich preifatrwydd pan fyddwch yn defnyddio'n gwefan. Fe wyddom na fyddech yn disgwyl llai na hyn wrthym ni. A gallwn eich sicrhau ein bod yn gweithio ar ddatblygu nifer o welliannau eraill yn ymwneud â phreifatrwydd a chwcis i'n gwefan.

Ein polisi cwcis

Rydyn ond yn defnyddio cwcis at y dibenion canlynol:

Nid yw'n cwcis yn storio unrhyw wybodaeth sensitif megis eich enw, cyfeiriad neu fanylion talu: mae cwcis ond yn caniatáu i'r wybodaeth honno gael ei chysylltu â chi ar ôl i chi fewngofnodi. Serch hynny, os hoffech gyfyngu ar, atal neu ddileu cwcis o wefan Learn My Way, neu unrhyw wefan arall, gallwch wneud hyn trwy'ch porwr. Mae'r dull yn wahanol i bob un porwr, felly gwiriwch adran 'Cymorth' dewislen eich porwr penodol (neu lawlyfr eich ffôn symudol) i ddysgu sut i newid eich dewisiadau cwcis.

Dyma restr o'r prif gwcis rydym yn eu defnyddio, ac at ba ddibenion rydym yn eu defnyddio.

Cookie name Cookie purpose
cookie-accept Mae'r cwci hwn yn cadarnhau eich bod chi wedi gweld y neges hon sy'n eich hysbysu bod y wefan hon yn defnyddio cwcis a thrwy barhau i ddefnyddio'r wefan, rydych yn caniatáu hyn. Rydym yn defnyddio cwcis er mwyn atal y negeseuon hyn rhag cael eu dangos eto.
has_js  
SESS + random letters & numbers Bydd cod unigryw yn hysbysu ein gweinyddion pan fyddwch wedi'ch mewngofnodi. Dydy cwcis ddim yn storio unrhyw ddata personol, eu hunig bwrpas yw eich galluogi chi i barhau i fod wedi'ch mewngofnodi i'n gweinyddion.
centreid Os byddwch chi'n cyrchu gwefan Learn My Way yn un o ganolfannau UK Online, yna mae'n bosib bydd gennych chi gwci sydd wedi'i osod i nodi'r ganolfan rydych chi ynddi. Mae hyn yn ein helpu ni i olrhain y gweithgarwch dysgu sy'n digwydd ar draws ein rhwydwaith o ganolfannau.
__utma...__utmz Mae'r cwcis hyn yn galluogi ein defnydd o feddalwedd Google Analytics. Mae'r meddalwedd hwn yn ein galluogi ni i dderbyn a dadansoddi gwybodaeth ynghylch sut mae ein gwefan yn cael ei defnyddio megis y porwyr sy'n cael eu defnyddio, nifer y defnyddwyr newydd, sut mae defnyddwyr yn ymateb i weithgarwch marchnata a hyd y sesiynau dysgu. Mae'r wybodaeth hynny yn ein helpu ni i wella'r wefan, eich profiad o ddysgu ac i wneud ein hymgyrchoedd marchnata yn berthnasol. Dim ond timau perthnasol Learn My Way a Google all weld y data sy'n cael ei storio gan y cwcis hyn ac ni fydd y data fyth yn cynnwys unrhyw wybodaeth yn gellir ei defnyddio i'ch adnabod chi fel unigolyn.

Cwcis trydydd parti

Pan fyddwch yn pori gwefan Learn My Way, efal;lai eich bod wedi sylwi ar rai cwcis nad ydyn yn gysylltiedig â Learn My Way. Pan fyddwch yn pori tudalen â chynnwys sydd wedi'i mewnosod arni, er enghraifft o YouTube, gall y gwefannau hyn anfon cwcis atoch. Nid ydym yn rheoli gosodiadau'r cwcis hyn, felly rydym yn eich annog chi i wirio gwefannau trydydd parti am ragor o wybodaeth am eu cwcis a sut i'w rheoli.

Offer 'Rhannu'

Os byddwch yn mynd ati i 'rannu' cynnwys Learn My Way gyda ffrindiau trwy rwydweithiau cymdeithasol - megis Facebook a Trydar - yna gall y gwefannau hyn anfon cwcis atoch. Nid ydym yn rheoli gosodiadau'r cwcis yma, felly rydym yn eich annog chi i wirio gwefannau trydydd parti am ragor o wybodaeth am eu cwcis a sut i'w rheoli.

Rheoli cwcis

Os nad yw cwcis wedi'u caniatáu ar eich cyfrifiadur, byddwch ond yn gallu pori'n gwefan; ni fydd modd i chi gofrestru a dysgu gyda ni.

I alluogi cwcis os nad ydych yn sicr o ba fath a fersiwn o borwr gwe rydych yn ei ddefnyddio i gyrchu'r rhyngrwyd:

Sut i wirio os ydy'ch cyfrifiadur yn caniatáu derbyn cwcis

Sut i wirio os ydy'ch cyfrifiadur Mac yn caniatáu derbyn cwcis

Ar gyfer pob porwr arall, trwoch at eich dogfennau neu ffeiliau cymorth ar-lein.

Rhagor o wybodaeth am gwcis

Os hoffech ddysgu rhagor am gwcis yn gyffredinol a sut i'w rheoli, trowch at wefan aboutcookies.org (yn agor mewn ffenest newydd - cofiwch, ni allwn gael ein dal yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol).